Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
3 Tachwedd 2014
CLA452 - Rheoliadau Cynllunio Glwad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Gellir ymgymryd â rhai datblygiadau bychain heb ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, gall Gweinidogion Cymru neu’r awdurdodau cynllunio lleol dynnu nôl y fath hawliau datblygu a ganiateir (HDG). Nid yw hynny’n atal y datblygiad, ond bydd angen cael caniatâd cynllunio.
Pan:
mae’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod cynllunio lleol yn atebol, mewn amgylchiadau penodol, am golledion uniongyrchol sy’n codi o’r tynnu nôl.
CLA453 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Yn benodol, mae’n diwygio’r ‘hawliau datblygu a ganiateir’ sydd gan weithredwyr cyfathrebu electronig yng Nghymru. Mae’r Gorchymyn yn cynnwys nifer o ddiwygiadau manwl. Rhai o’r newidiadau mwyaf yw:
CLA454
- Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion)
(Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Hydref 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgorau rheoli i gynnal unedau cyfeirio disgyblion yn eu hardal, a gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad a gweithdrefnau pwyllgor o’r fath.
CLA455 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn:Negyddol
Fel arfer, mae rhaid i hadau egin a fewnforiwyd o drydydd gwledydd (h.y. gwledydd tu allan i’r UE) fodloni safonau hylendid y CE. Fodd bynnag, mae’r CE wedi nodi nad yw rhai gwledydd yn bodloni’r safonau hynny. Felly, mae’r CE wedi penderfynu darparu rhanddirymiad tan 1 Gorffennaf 2015. Tan hynny, bydd rhaid i hadau egin dim ond bodloni profion microbiolegol penodol, a gynhaliwyd yn y trydydd gwledydd cyn allforio.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu’r rhanddirymiad hwnnw yng Nghymru